Cyfleusterau
Brecwast Cymreig llawn, lolfa glyd ac ystafelloedd ymolchi glân yng ngwesTY, Aberystwyth.
Brecwast
Dechrau da i’r diwrnod
Mae ein brecwast bendigedig yn ffordd arbennig o gychwyn y diwrnod! Rydym yn hynod o falch i allu cynnig cynhwysion lleol blasus yn ein brecwast Cymreig.
Mae’r gwasanaeth brecwast hefyd yn cynnig grawnfwydydd amrywiol, a gorsaf tê a choffi i chi helpu’ch hun. Os oes gennych unrhyw anghenion deietegol arbennig – rhowch wybod i ni.
Mae brecwast yn cael ei gynnig rhwng 8am a 9:15am yn yr ystafell fwyd lawr grisiau. Pa ffordd well o ddechrau’r diwrnod na gyda llond boliaid o frecwast Cymreig?



Y Lolfa
Ymlaciwch
Pleser yw cynnig y lolfa i chi allu ymlacio ynddi. Mae’n awyrgylch braf ac ymlaciol lle gallwch ddarllen, chwarae gemau bwrdd neu wylio’r teledu sydd yno.
Mae soffas cyfforddus yno ar eich cyfer lle gallwch ddychmygu eich bod adref yn eich cartref eich hun.

Ystafell Ymolchi Cymunedol
Glân ar bob cyfrif
Mae gennym ystafelloedd ymolchi cymunedol sy’n cynnwys tri thŷ bach a chawod ddwbl. Mae rhain ar gyfer yr ymwelwyr sy’n defnyddio’r ystafelloedd heb en suite.
Caiff yr ystafelloedd eu glanhau yn drwyadl yn ddyddiol er mwyn cynnal ein safonau uchel o lanweithdra i sicrhau bod ein gwesteion yn mwynhau eu arhosiad gyda ni.

