
Amdanom Ni
Gwesty yn Aberystwyth
Gwesty ger y lli
Gwesty teuluol ydyn ni, dafliad carreg o Draeth y De yn nhref lan môr hyfryd Aberystwyth. Rydyn ni’n falch iawn o gynnig llety ag awyrgylch croesawgar er mwyn i chi gael gwyliau i’w gofio.

Amrywiaeth o ystafelloedd braf
Rydyn ni’n cynnig un ar ddeg o ystafelloedd modern a chyfforddus. P’un a oes well gennych chi ystafell sengl glyd, ystafell ddwbl fawr neu ystafell i dri, mae gennym ni opsiynau i ateb y galw.
YstafelloeddCyfleusterau modern
Mae cyfleusterau modern ym mhob ystafell, gan gynnwys teledu ac offer gwneud te a choffi am ddim. Darperir tywelion esmwyth hefyd.
Brecwast penigamp
Caiff ein brecwast blasus ei gydnabod fel y brecwast gorau yn Aberystwyth ar booking.com. Mae ein cogyddion dawnus wedi creu bwydlen amrywiol sy’n defnyddio cynhwysion lleol, ac mae rhywbeth at ddant pawb; brecwast poeth, opsiynau llysieuol a fegan a danteithion cyfandirol.
Cyfleusterau
Ymlaciwch gyda ni
Ein bwriad ni yw creu awyrgylch cartrefol ac esmwyth yn y gwesty er mwyn i chi fwynhau eich gwyliau gyda ni ac ymlacio’n llwyr. Cofiwch fod croeso i chi gysylltu ȃ ni’n uniongyrchol - gallwn guro unrhyw brisiau ar wefannau archebu eraill!
